Pa gymeriad Rownd a Rownd wyt ti?
Pa gymeriad Rownd a Rownd wyt ti?
Rhowch gynnig ar y cwis!
Rhowch gynnig ar y cwis!
Mynd am dro yn y car – be' sy' mlaen fel cerddoriaeth?
Noson allan – lle ei di?
Noson dawel yn y tŷ neu bobl yn dod draw am swper – be' sy' ar y fwydlen?
Mynd i weld ffilm – be' 'dio?
Gwyliau – lle ei di?
Gwefannau Cymdeithasol (tasa pawb arno!) – pa un?
Hoff raglen deledu?
Hoff bwnc yn yr ysgol
Hoff Liw
Crysh seleb – pa un?
Kay
Kay
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw KAY!
Ti'n benderfynol ac yn gryf dy farn. Ti'n gallu bod yn un am ddal dig ond ti'n un da am faddau hefyd!
Dani
Dani
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw DANI!
Ti’n berson sydd wastad yn llawn hwyl a wastad yn gweld y gorau ym mhobl – er dy fod yn gallu bod yn berson eitha’ 'styfnig ar brydiau.
Barry
Barry
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw BARRY!
Ti’n un poblogaidd ymysg dy ffrindiau ac yn dueddol o fod yn berson annibynnol iawn rhan fwyaf o’r amser.
Philip
Philip
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw PHILIP!
Mae gen ti olwg hwyliog ar fywyd sy’n gallu bod yn eitha' coeglyd ar brydiau! Ti wastad yn rhoi’r rheini sydd agosa’ i ti cyn chdi dy hun.
Meical
Meical
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw MEICAL!
Ti'n hapus dy fyd rhan fwyaf o'r amser a wastad yn barod dy gymwynas.
Carys
Carys
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw CARYS!
Ti'n greadigol, yn annibynnol ac yn llawn bywyd. Y math o berson sy'n byw i'r funud a byth yn cynllunio o flaen llaw.
Arthur
Arthur
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw ARTHUR!
Ti’n dueddol o gael mewn i ambell dro trwstan ar brydiau ond dim byd na elli di ei ddatrys yn hwyr neu hwyrach!
Sophie
Sophie
Dy gymeriad Rownd a Rownd di yw SOPHIE!
Rwyt ti'n berson penderfynol iawn ac yn hoff o bethau mwy moethus bywyd!